Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

105 Heb loesau pa lesiant wna mwyniant un man O gyrau'r greadigaeth, pe'n helaeth doe i'm rhan, Neu gyfoeth pe'i cafwn, anrhydedd neu fri, Nid hyny'm gwnai'n foddlon heb Meirion i mi. Pe rhoddech mewn meusydd nofiedydd y dw'r, A'i borthi a brasder y ddaear yn siwr, Nid boddlon gan hwnw ond llanw a lli' ; Gan inau nid boddlon ond Meirion i mi. Ar brydiau mi fydda'n rhyfedddu'n ddiwâd, At deulu yn dawel yn gadael eu gwlad ; Dymunwn bob mwyniant- iach lwyddiant i chwi, Dirwystrau yn ngwlad estron ; ond Meirion i mi. Pe cawn i mor dirion ryw foddion mor fâd, A dyfais i'm danfon i'r union hen wlad ; Yn llawen boddlonwn, fe'm gwelwn mewn bri, Cael aros ar fronydd Meirionydd i mi. Os rhaid i mi rodio neu drigo o dref, 'N hir eto hiraethaf, bydd hyllaf fy llef; Gobeithio pan ddelo fy ngyrfa i ben, Caf farw yn ngwlad Meirion- ïe Meirion, -AMEN. GWILYM ARAN. " RHYWUN. " Clywais lawer sôn a siarad Fod rhyw boen yn dylyn cariad ; Ar y sôn gwnawn innau chwerthin, Nes y gwelais wyneb RHYWUN. Ni wna cyngor, ni wna cysur, Ni wna càn-mil mwy o ddolur, Ac ni wna ceryddon undyn Beri im' beidio caru RHYWUN.