Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

106 Gwyn ac oer yw marmor mynydd, Gwyn ac oer yw ewyn nentydd ; Gwyn ac oer yw eira Berwyn , Gwynach, oerach, dwyfron RHYWUN. Er cael llygaid fel y perlau, Er cael cwrel yn wefusau, Er cael gruddiau fel y rhosyn, Carreg ydyw calon RHYWUN. Tra b'o clogwyn yn Eryri, Tra b'o coed ar ben y Beili, Tra b'o dwfr yn afon Alun, Cadwaf galon bur i RYWUN. Pa le bynag bo'm tynghedfen, P'un ai Berhiw neu Rhydychen, Am fy nghariad os bydd gofyn, Fy unig ateb I fydd- RHYWUN. Caiff yr haul fachludo'r borau, Ac â moelydd yn gymylau, — Gwisgir fi mewn amdo purwyn Cyn y peidiaf garu RHYWUN. ALUN.