Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

132 A gryna fel y ddalen fr, Wrth weled tŷ fy nhad ; Mi wela'r drws, mi wela'r faingc, A'r 'stol fawr bedair tro'd , Ond nid wy'n clywed tyner gâinge Fy mam wrth droi ei rhòd. gam ? Pa fodd y gallaf fynd ýw clyw, Pa fodd y rhoddaf Ac os danghosaf ' mod yn fyw, Pwy ddengys ' nhad a mam? Tynghebaf chwi à thyner gais, Gartrefol adar bach , I roi arwydd llon éich llais, Eu bod hwy'n fyw ac iach. Mae'r mwg yn wyn o'r simne gul , Yn taenu gwres trwy'm gwa'd, Ond gwell f'ai genyf weithiau fil, Wel'd copa gwyn fy nhad ; I b'le'r aeth pob rhyw wyneb llon? B'le'r aeth y llysiau mwyn? A yrwyd pawb hyd daear don, Fel fi, heb nyth ra llwyn ? Mi wela 'ngorgi bach yn fyw, A'i groen yn dyn a thlws ; A dacw'r hen berchenog syw Yn agor iddo'r drws : O clywch, hen wr, un gair gen'i, Cyn troioch yn eich ol, Os nad yw'ch ty yn llai na bu, Awn iddo gol yn nghôl Fr 00 P Ai P To Fr P 3 Ꭱ