Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

133 CWYN CARIAD. F'ANWYL ferch, delw'm sereh, clyw anerch clwy enaid Tro'ist yn ddu'r cariad cu , a chanu'n ochenaid ; A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion ? A oedd yn mhléth, at y peth, ddwrn yr eneth union ? Yn wir dy wg dagrau ddŵg i'r golwg o'r galon, Oni chaf hêdd af i'm bêdd i orwedd yn wirion. P'le mae'r grêd, gofus gêd, adduned oedd anwy!? Ai sî a siom yr ammod drom unasom ryw noswyl ? P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd Torai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dôlydd : Yn iach i'th wedd, mi wela ' medd, wau agwedd yn agor Dyweddifymùnimi,awyliarfyelor? Pan weli sail y bèdd, a'r dail ar adail mor hoywdeg, Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg, Mai d'achos di, greulon gri, fy gwelwi'r fau galon ; [fron? Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwy Gorchwyl gwan, rho'i llef drwy'r llan, troi'r fan yn afon Rhy hwyr serch, felly ferch i'm llanerch bydd llonydd. [ydd ALUN. GADAEL CYMRU. Yn fy mron y mae trychineb, Wrth adaw'm gwlad, Rhed afonydd hyd fy wyneb, Wrth adaw'm gwlad , Gadael rhïaint hoff caruaidd, Gadael hen gyfeillion mwynaidd Gadael gwlad yr Awen lathraidd , Wrth adaw'm gwlad.