Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

59 FY NAGRAU'N LLI. BACHGENYN Wyf o Walia wiw, Yn mhell o'i wlad a'i fron yn friw, Fy meddwl yw mynegu i chwi, Paham y rhed fy nagrau'n lli ! Gadewais, do, fy anwyl wlad, Y'nghyd a thirion fam a thad : Fy mrodyr a'm chwiorydd i Fydd ar fy ol a'u dagrau'n lli. Pa le mae'm hen gyfeillion mâd ? Pale, pa le, mae'm hanwyl wlad ? Mae cofio'i thirion fryniau hi, Yn awr yn dwyn fy nagrau'n lli. Pa le mae'i dyfroedd glowyn glân ? Pa lemae swn ei hadar mân? Ai hyn sy'n dwyn, mynegwch chwi, Yn mhell o'm gwlad fy nagrau'n lli ! Pa le mae'i hoesol gestyll gwiw ? Pa le mae'r lili lân o liw? Pa le, pale, mae nghalon i ; Pan yma rhed fy nagrau'n Íli. Pa le mae ' nghangen lawen lwys ; Pa le mae'r fron y rhois fy mhwys ?