Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

60 Pa le mae'r un a hoffais i, Pan ута rhed fy nagrau'n lli ? Pa le mae'r llwyn o dan y nen, Y bum yn rhodio gyda Gwen ; Pa le mae'm hanwyl gariad i, Pan y gollyngaf ddagrau'n lli ? Pa le, pa le, mae hyfryd gân, Y delyn fwyn a'i thannau man ; Ond yn y wlad y'm magwyd i, y Pan yma rhed fy nagrau'n lli. Fy ngwlad ! fy ngwlad! fy anwyl wlad! Ei chofio sydd yn peri brad ; Ac 0 na ddeuai 'i ħawel hi, I sychu 'ngloywon ddagrau i. O na wrandawai hon fy nghwyn, Rwy' yma'n marw er ei mwyn ; Pan nad oes neb er maint fy nghri, Ond angeu i sychu 'nagrau i. 'Does ond y bedd, y man rwy'n myn'd; A ladd fy hiraeth am bob ffrynd ; A thyna'r man mynega'i chwi, Y sychir fy holl ddagrau i ! WILIAM WEALTRS.