Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

61 YR AMDDIFAD. A'M deigryn ar fy ngrudd Wyf ar fy ngliniau, Yn ocheneidio'n brudd Bob hwyr a borau, Yn unig ar fy hynt Heb riant tyner ; Yn cwyno gyd a'r gwynt Er hyny'n ofer. Ni welaf byth fy Mam, Mae wedi marw ; Na Thad i arbed cam, Mewn bedd mae hwnw : Mae rhyngof fi a hwy Y wleb ddaearen A wylo bydddaf mwy Ar y dywarchen . Cyd-chwardded beilchion byd, Ceir fi yn wylo Ty walltaf ddagrau drud A'm gruddiau'n llifo : Fy Nhad a'm hanwyl Fam, Ni thosturiant Fy nghadw rhag un cam Byth ni allant. CADWALDAR, BRYMBO.