Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

62 Y WLAD SYDD WELL. CLYwaf di yn son am wlad o ddedwyddwch ; Gelwi ei phobl yn feibion hyfrydwch ; Fy Mam O på le y mae yr oror ysplenydd, O ! na chaem eu meddianu o afael ein cystudd . Ai lle mae eurlwyni mewn hedd yn blaguro , A maesydd o berion yn siriol flodeuo ? - " O nage ! nid yno mae'r ardal hyfrydlon, Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu gofalon !" Ai yn ngwlad y pomgranad a'r palmwydd pereiddiawl, Lle distyll y gwinodd eu ffrwythau addfedawl, Neu mhell yn y cefnfor mewn hafaidd werddonau , Lle chwyth hoff awelon dros erddi perlysiau , Ac adar hyfrydlais yn odli llawenydd . Mewn mentyll eurddosawg, a thegwch ysplenydd ? " O nage! nid yno mae'r ardal hyfrydlon, Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu helbulon !" Ai yn mharthau dwyreinfyd , lle dyrch haul y borau , A threiglynt afonydd ac aur hyd eu glanau Pelydron arianaidd y gem a ddysgleiniant, A llethri gan wythi o berl a lewyrchant, A bronau coethfeini goreurant yn hyfryd- Ai yno fy Mam ! y mae Gwlad y dedwyddyd ? "O nage ! nid yno mae'r ardal hyfrydlon, Lle gorphwys y dedwydd oddiwrth eu gofidion !" Fy mhlentyn erioed ni chanfyddodd golygon, Ni chlywodd y glust un o'i chathlau melusion ; Ei thegwch nid all unrhyw freuddwyd ddarlunio, Gofid nac Angau ni feiddiant fyn'd yno ! Amser ni chwyth ar ei bythawl wyrenig ; Canys uwch y cymylau a daiar lygredig, Mae Cartref tragwyddawl y dedwydd dduwiolion , Lle seiniant delynau gorfoledd nefolion ! GWENFFRWD.