Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

75 CAN YR YMYFWR. Henffych well, fy ngwydraid siriol ! Genyf fi yn ddiammheuol Nid oes dim sydd mor ddewisol ; Atat oddiwrth pobpeth äf: Er y gwn i am dy ddrygau, Er cael prawf mai twyll yw'th wênau , Eto wrthyt bob amserau, O fy ngwydraid, glynu wnâf. Beth ? ymrwymo i beidio yfed Fy hoff wlybwr sydd felused ! Na! nidywfymhencànwaned! Dirwest, aed i rywle ymhell : Gwell yw genyf bob gresyndod Gwendid corff, ac ing cydwybod, Nag ymattal rhag y ddiod : O fy ngwydraid, henffych well ! Am y tipyn blâs a brofaf, Ymadawn a'm swllt diweddaf; Boed a fyddo, mi ymyfaf ; Oddioden!swynywhi! Er i'm gwraig fod heb gysuron ; Yfed wnaf bob nos yn gyson ; Ac er iddi dori ei chalon, At fy ngwydraid daliaf fi , Boed fy nheulu yn druenus , Boed fy enw yn anmharchus,