Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

80 Y MILWR IEUANGC IDD EI GARIAD. Anwylyd dere i'r glas lwyn, -fy nghariad wiw, Rhodiwn hyd y llwybrau mwyn, -fy nghariad wiw, Lle mae'r rhosyn coch mor gu Yn gwyllt darddu ar bob tu , Y'mhell o dref ai phrysur lu,-fy nghariad wiw, Ni awn heibio'r bwthyn gwyn, -fy nghariad wiw, Sydd yn gwenu'n ngodreu'r llyn, -fy nghariad wiw, Lle cawn wrandaw rhuad certh Y pistyll dros y mynydd serth, A chynghanedd fwyn y berth, -fy nghariad wiw. Ac i'r deildy ir yr awn,-fy nghariad wiw, Lle cawn adrodd calon lawn, -fy nghariad wiw, Ceincia'r adar fry'n ddigwyn, Oedfa gawn o gwmni mwyn, Plethwn goron blodau'r llwyn, - fy nghariad wiw. Ond ffarwelio raid , oer friw, -fy nghariad wiw, Gadael dy gwmniaeth wiw , -fy nghariad wiw, Canu'n iach â glanau'r llyn, Y ddol, a'r bwth, a godreu'r bryn, Lle y crwydrem ni cyn hyn, -fy nghariad wiw, Tynged arw sydd i'm bron, —fy nghariad wiw, Hollti, braidd, mae'm calon hon ! -fy nghariad wiw, Cyn i'r weddus wawr ddeffroi Yfory, rhaid im ' ffarwel roi, Ac o'm cartref anwyl droi, -fy nghariad wiw, Pan rwy'n mhell mewn estron wlad, --fy nghariad wiw Ac os cwympaf yn y gâd, —fy nghariad wiw, Wnei di, Gwen, anwylgu fwyn, Wylo deigryn er fy mwyn, Ac er cof gyfodi cwyn, -fy nghariad wiw. GWENFFRWD.