Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

81 HIRAETH Y BARDD AM EI WLAD. Er cael pleserau yn ngwlad y Sais A gwel'd ei ddyfais wiwber, Mae gwlad yr awen, geinwen gell , Er hyny'n well o'r haner; Ei hawel iach, a'i melus ddw'r A chyflwr ei thrigolion , Wrth gofio'r Beirdd, rhyw hiraeth draidd Drwy giliai'r wanaidd galon ; Braidd na dd'wedwn yn ddiwad, Mae nefol wlad yw Cymru ; O, na b'ai ' nhraed yn sengu ar hon, Ar finion ceinion Conwy. Ac O, mor gynar yn ein gwŷdd, Ar bren-frig, bydd y fronfraith, A'i nodau yn glir, newidiog lef, Yn moli'r nef mewn afiaeth ; A'r enwog fwyalch, gyda'r dydd , Ar gân a rydd ogoniant, Ar frigyn pren, dan glogwyn serth, Gaeadnerth uwch y goednant. - Braidd, &c. Mae'r Sais yn dangos im' bob dydd, Mewn gwir, ei rydd hawddgarwch ; A'r nos caf ganddo wely clyd , A digon byd o degwch ; Ond pan fo'm corff yn huno'n ber, Ar wely tyner manblu , Fe gwyd fy ysbryd, ac fe ' hed I'mweled å thir Cymru,-Braidd, &c. Ac wedi deffro gyda'r dydd, Mor bruddaidd fydd y galon, Nid daear Cymru fydd fy lle, Ond canol tre' Manceinion ; Cyn codi'r haul o'r dwyrain draw, Yr ysbryd ddaw i'w lety, I brudd fyfyrio fel y bu Yn nghanol teulu Cymru . - Braidd, &c. F