Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

84 Er gwaeled wyf, i'r gwely daw , O mae hi'n oer. Mae'n arw fod mewn oeraf fan Rhyw unig wr mor hen a gwan , Yn welw ei rudd, yn wael ei ran, O mae hi'n oer. O na chai hen greadur gwan Cyn llechu'n llwyr yn llwch у llan I'w einioes fer rhyw gynes fan ;; Omaehi'noer! Mewn eira ceir hen Wr y Cwm, O mae hi'n oer. Mewn gwynt a lluwch ac yntau'n llwm O mae hi'n oer. Er gweled llawnder llawer llu, Rhag gofid oer y gauaf dû Ni feddaf lloches gynes gu , O mae hi'n oer. O boenau dwys ar ben y daith ; Mewn eisiau'n fud am noson faith Ar wely llwm mor wael a llaith, Omaehi'noer!

Mewn eisiau tost - mewn eisiau tân, O mae hi'n oer. Heb wlanen glyd, heb lîn na gwlan ; O mae hi'n oer. Ar waela’i ran o ddynolryw, Ar fin y bedd r'wyf fi yn byw,,