Tudalen:Dyddgwaith.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac o leiaf ystyr rhai geiriau, cyn bod un cyfrwng arall at ei alwad—onid tlysion oedd y llyth rennau bychain Groeg, gyferbyn â'r traed brain Hebraeg! Bu'n edifar ganddo wedyn gymryd yn erbyn y traed brain hefyd, canys yr oedd, pe gwybuasai ef, o leiaf un llyfr Cymraeg a roesai iddo gymorth i ddeall y rheiny. Am Ladin, ni cheid cymorth hyd yn oed yn ysgil crefydd. Eto, rhaid bod yng Nghymru yr adeg honno nid ychydig a fedrai Roeg. Cafodd yr hogyn hwnnw'r fraint ddeng mlynedd yn ddiweddarach o'i dynnu i ddarllen y Testament Groeg mewn "Cyfarfod Darllen" lle'r oedd tri arall a wnâi hynny—hen ysgolfeistr, teiliwr, a garddwr, coffa da amdanynt.

Ni ellir amau na thraethwyd o dro i dro lawer o bethau rhyfedd am ragoriaeth Groeg a Lladin. "Nid gŵr bonheddig ni wypo Roeg" meddai rhywun gynt, peth a ddengys—a bwrw bod y wybodaeth yn ddilys—na ellir bod yn sicr mai'r un peth fyddai ei heffaith ar bawb. Ond a rhoi na ddichon hyd yn oed Roeg wneuthur gŵr bonheddig o bob math o stwff, y mae'n rhyfedd na feddyliodd rhai o'r dosbarth, a awgrymai ddarfod eu boneddigeiddio hwy,