Tudalen:Dyddgwaith.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim am y dull mwyaf effeithiol, yng Nghymru o leiaf, at luosogi'r cwmni. Efallai yn wir mai un gynneddf ar ŵr bonheddig o'r fath oedd ofn. . . "Ni ellir iawn ysgrifennu Saesneg heb fedru Lladin," meddai un arall, ac yn ddiau, a barnu wrth eu hymdrechion, fe'i credodd llaweroedd o'i gydwladwyr llenyddol am gyfnod maith, er bod eraill ohonynt yn ddi weddarach wedi darganfod rhinwedd Anglo- Saxon at yr un pwrpas, a bod erbyn hyn nid ychydig ohonynt yn gwbl sicr nad oes gan hyd yn oed Esperanto ddim siawns yn erbyn Saesneg fel iaith wneud. Bellach hefyd, bu wiw gan rai prifysgolion droi Lladin a Groeg, nid yn unig o'r hen ogoniant oedd eiddynt unwaith, ond hefyd ddeddfu nad rhaid wrth Ladin hyd yn oed er mwyn trin y defnyddiau hanes sy'n digwydd bod yn yr iaith honno. Ac am Roeg, ymddengys bod yn beth dysgedig i feistr ar athroniaeth gymryd ei Blato'n ddibetrus oddi ar blât rhywun arall, megis.

Diau y gellid profi bod yr ysgolion gynt yn dodi ar Roeg a Lladin fwy o bwys nag oedd raid, ac nid rhyfedd, efallai, i rai ohonynt o'r diwedd fynd i'r eithaf arall. Eto, ni ellir amau na