Tudalen:Dyddgwaith.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pherthyn i'r llenyddiaeth a geir yn y ddwy hen iaith hynny ansoddau sy'n haeddu pob rhyw barch a roed iddynt erioed. Ac er na chaiff neb oddi wrth unpeth a ddysgo onid meithrin y peth fydd ynddo wrth natur, y mae'r nodd cyfrin hwnnw, a geir, yn wir, yng nghlasuron pob iaith, y nodd fydd yn rhywiogi ac yn ffrwythloni pob anian gydnaws, i'w gael yn helaeth yn nhrysorau Groeg a Lladin.

Nid oes dim mwy diddorus, fel y cerdda'r blynyddoedd ymlaen, na darllen o dro i dro rai o'r pethau a ddarllenid gynt, cyn dyfod o'r dyddiau blin, pethau o ddewisiad hen athrawon a farnai nad oedd cyfnod dysgu Lladin i fechgyn ddim. yn adeg ry gynnar i wneuthur hynny drwy gyfrwng doethineb a phrofiad eraill. Nid hawdd anghofio'r pleser a ddôi pan ildiai'r gystrawen ddieithr ei hystyr, na'r lled syndod a ganlynai sylweddoli mor fynych y byddai meistriaid y gystrawen honno yn ymddwyn mor urddasol ac yn llefaru mor gynnil.

Ffortunus oedd yn gynnar daro ar hen lyfr o ryw gan tudalen, yn llawn o'r urddas a'r ddoeth ineb a'r cynildeb hwnnw, casgliad hen athro a fentrodd gredu nad yw hyd yn oed hogiau