Tudalen:Dyddgwaith.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DYDD o'r blaen trewais ar gopi o draethodau Emerson, a ddarllenwn yn gyson pan oeddwn o ddeunaw i ugain oed. Cof gennyf mai pan fyddwn bruddaf ac anfodlonaf y darllenwn ef, ac mai effaith ei arddull ddiarhebus a chyferbyndod chwim ei feddyliau fyddai clirio awyr cyfnod digalondid a gwrthryfel. Byddai'n gysur gwybod bod dynion i'w cael a allai fod mor sicr, a bod y rheiny'n gallu argyhoeddi bachgen deunaw oed, o leiaf, fod y sicrwydd hwnnw'n beth mor syml. "Who would be a man must be a nonconformist," er enghraifft. Gwlad lawn o rai'n anghydffurfio oedd Cymru yr adeg honno, ac yn gwneuthur hynny'n chwerw hefyd. A'r drwg oedd i minnau ganfod cyn hir fod Emerson yn peri i rywun anghydffurfio â'r holl anghydffurfwyr!

Dengys marciau ar ymyl dail y llyfr beth oedd yr elfen yn ysgrifau Emerson a apeliai fwyaf at un math o feddwl yn nhymor y peth y byddai awdurdodau go newydd yng Nghymru ychydig flynyddoedd yn ôl yn ei alw byth a hefyd yn gyfnod yr "adolesent." Yr elfen honno oedd ei bobmanrwydd hyderus. "There is one mind," meddai, "common to all individual men. Every