Tudalen:Dyddgwaith.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ardderchog a dysg helaeth Emerson ei hun. Perygl yr un maes, hyd yn oed ar ei orau, yw gorfanyldeb. Heliwr fydd y gŵr â nwyd pobman ynddo, ac anturio y bydd hwnnw. Cloddiwr yw gŵr yr un maes, turio y bydd yntau. Gwêl y cyntaf bethau pell, rhamantus, gorau oll os bydd ias o dragoedia ynddynt hefyd-corff Hector yn. ysgrialu drwy'r llwch o amgylch muriau Troea, ac Andromachê drist yn wynebu tua'r wlad estron; Dido yn torri ei chalon ar ôl rhyw drempyn ar ei dro; Paolo a Francesca fel y gwelodd Dante hwy; Werther a'i ofidiau. Ar ddamwain hefyd, fe gaiff efallai gip ar y taflwr coed hwnnw yn Homer, a'r hogiau a'r asyn, a'r cacwn, ond bydd raid iddo aros ennyd cyn colli ei ffordd yn y "Selva Oscura" gyda Dante, neu ddeall maint tosturi Werther ato ef ei hun. Pe ceid y pethau hyn a llawer eraill o bethau tebyg,. heb ofer-ddatblygu bwhwmanrwydd, da fyddai.. Ond ymlaen a'r anturiwr, o nerth ei farch, beth bynnag am ei farn, i feysydd eraill, nes cyrraedd y maes lle'r ydys bellach yn dotio at wneuthur trwy rysedd rai o'r pethau yr oedd dynion. cyntefig yn eu hosgoi trwy reswm.