Tudalen:Dyddgwaith.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn brofiad na ellir na'i anghofio na'i ddisgrifio; dyfod i gyffyrddiad union â gorffennol didranc; cael gafael ar beth dir, nad oedd cyn hyn ond megis wedi cyffwrdd yn awr ac eilwaith â'r mud ymwybod ynom, gan gilio drachefn, megis breuddwyd. Yr oedd hud yn yr awyr o'n cwmpas; mil o afaelion yr amser a fu, fel dwylaw anweledig, yn ein dal a'n tynnu ym mhobman; peroriaeth hen iaith yn ein cario'n ôl i ieuenctid byd, megis. Ni bu dim erioed mor fyw a'r dyddiau hafaidd hynny. Nid hen mo'r bywyd hwnnw. Bob bore, deffroid dyn gan sŵn dynion a chŵn yn gyrru gwartheg tua'r lanfa lle'r oedd llongau'n eu disgwyl, ond drwy'r cwbl clywid darn o gytgerdd y "Byd Newydd" gan Dvorak, a ganai rhyw hen ŵr ar ei gorn pres, bron i'r funud am wyth o'r gloch. A genid y darn hwnnw yn y wlad lle'r oeddym, cyn i'w meibion ddechrau llifo wrth y miloedd tua'r "Byd Newydd," ai awen y cerddor a'i creodd, nis gwn. Ond cymwys oedd ei ganu o'r hen gornor yno i ni y boreau hynny, a ninnau eto'n ieuainc. Newydd oedd y byd, y newydd hwnnw sy'n cynnwys pob hen.