Tudalen:Dyddgwaith.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eto, pan dorrai'r peth beunyddiol a chyfamserol ar ein traws, fel y gwnâi wrth raid ar dro, byddem ninnau'n feirniadus, a cheisiem fod megis ar wahân i bethau, nid effaith galwedig aeth yr ymchwiliwr yn unig, efallai, ond peth oedd hefyd yn ddyledus i nodwedd arall yn perthyn i'r ddinas ryfeddol honno-ei diofalwch ysgafn, ei hysbryd cellwair di-ildio, y peth y tybir, efallai'n gyfiawn, mai ef oedd yr esprit gaulois.

Diau fod dylanwad y ddwy nodwedd arnom. Mewn ysbaid o'n gweled ein hunain fel y gallai fod eraill yn ein gweled, troesom un hwyrddydd i sôn am wladgarwch. Aethom i ymholi am y pryd gyntaf y daethom i ymwybod â'r peth (onid ymchwilwyr oeddym?). Cyfaddefodd un o'r cwmni mai ar ôl colli ei gariad yr aeth ef yn wladgarwr.

"Yr oedd yn rhaid i mi garu rhywbeth," meddai. "Yr oedd rhyfel ar dro yn neheudir Affrica. Darganfum innau wladgarwch."

Darllenasem oll am y meibion dewrion hynny a fyddai, od oes goel ar brydyddion, yn y dyddiau rhamantus gynt, yn myned i chwilio ym mlaen y gad am ddihangfa, chwedl y beirniaid llenyddol, rhag eu tynged, ar ôl profiad tebyg. Ond nid