Tudalen:Dyddgwaith.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd dim rhamantus yn ein cyfaill, erbyn hyn. Ystlen? Dim byd llawn mor syml, ni gredem. Cariad-efallai, ond nid ystlen mo hwnnw oll, er a ddywedai'r ystlenyddion. Cyffesodd un arall o'r cwmni mai byw yng ngwlad estron a chofio am Ebrill yn ei wlad ei hun fu deffroad cyntaf ei wladgarwch yntau. Felly o un i un gwnaethom bawb ei gyffes.

Yr oedd yno bedwar ohonom, bob un o wlad wahanol, yn olrhain y peth yn ôl at effaith ysgolion lle y ceisiwyd ein dysgu i ddibrisio'r wlad y'n ganed ynddi a phopeth a berthynai iddi. Cawsom na wybu'r ddau gyntaf mo'r profiad hwnnw yn yr ysgolion, ond yn hytrach y gwrthwyneb, a'u bod hwy wedi diflasu, mwy na pheidio, ar y sôn a glywsant am weithredoedd nerthol eu hynafiaid, a'u rhagoriaeth ddiamau ar hynafiaid pawb arall.

O'r pedwar a fu yn yr ysgolion gormes, yr oedd tri o waed cymysg, un ohonynt a mesur o waed y genedl ormes yn ei wythiennau. Cytunem oll fod hanes y pedwar a gafodd brofiad yr ysgolion yn hawdd i'w ddeall, ac nad pell oddi wrthynt oedd safle'r gŵr a aeth i wlad estron yn ieuanc. Ond beth am y gŵr a siomwyd yn ei gariad?