Chwarae teg iddo, cyfaddefodd mai merch o genedl arall oedd hi, ac mai gŵr o'r un genedl â hithau a'i dug oddi arno. Felly, daeth yntau i'r un cwch â'r gweddill ohonom, efallai—y peth cynharaf y gallem olrhain ein gwladgarwch iddo ydoedd cam, bwriadol neu ddifwriad, oddi ar law'r genedl arall. Nid ymddangosai fod modd dianc rhag y casgliad hwnnw. Eto, yng nghywair yr ymddiddan hwnnw, o leiaf, prin yr oedd un ohonom yn gwbl fodlon ar ganlyniad rhesymegol. y casgliad cyffredin. Pam yr oedd yn rhaid i ninnau wrth un esgus?
A oedd hynny'n meddwl mai casáu'r genedl arall yr oeddym, yn hytrach na charu'n cenedl ein hunain? Peth o'r naill a'r llall, efallai, meddem, er nad cas at y genedl arall fel cenedl, ond at dra-arglwyddiaeth estron. Nid oedd ein profiad ni bob yn un ond darganfod y profiad cyffredin. Yr oedd pob math o gymhlethdod yn y peth, fe wyddem. Pob math o ddiffiniadau o wladgarwch, o "Dulce et decorum est pro patria mori" hyd at "The last refuge of a scoundrel," a rhywfaint o wir ym mhob un ohonynt, ond odid. Ond pa beth oedd y patria? Rhywbeth heblaw tiriogaeth hynafiaid rhywun, weithiau'n