Tudalen:Dyddgwaith.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a glanach eu buchedd na'i thrigolion hi ei hun, yn ôl tystiolaeth un o'i phoëtau:

Campestres melius Scythae,
Quorum plaustra vagas rite trahunt domos,
Vivunt, et rigidi Getae.

Efallai, meddai arall, mai digrifach fyth meddwl am Brydain yn cadw byddinoedd a swyddogion yn yr India yn unswydd i ddysgu'r trigolion sut i wneud hebddynt.

"Drwy ddwyn eu tiroedd, eu tolli a'u newynu," meddai un o'r pedwar, braidd yn gas, megis pe clywsai sôn am bethau tebyg yn nes adref na'r India.

Diau fod i ninnau'r barbariaid, Scythiaid a Getiaid, hawl i chwerthin am ein pen ein hunain —a'r lleill. Rhaid wrth bob math o bobl i wneud byd," meddai rhywun.

"Rhaid!" meddai un arall, disgynnydd i genedlaethau o fôr—herwyr Llychlyn, "tynnu a gwrth-dynnu yw popeth. Cyn rheitied un anwes ag arall."

Ac ymlaen â ni bawb a'i ddihareb o ystôr profiad ei hynafiaid ei hun.