Tudalen:Dyddgwaith.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eto, yn iaith un o'r cenhedloedd gormes yr ymddiddanem. Pa mor gas bynnag y gallai fod honno i rai ohonom, fel offeryn gorfod y dyddiau gynt ac eto, hi oedd cyfrwng ein cyd-ddealltwriaeth y tro hwn, er nad oedd hi yn famiaith un ohonom. Llawer camp arni, at fynegi meddwl—a'i guddio. Yn enwedig ei guddio. Ond rywfodd, ni charai neb ohonom hi, mwy nag y gallasem garu'r gloch drydan gerllaw, oedd mor hwylus i alw ar wasanaethwr wrth raid. Diau fod eraill a'i carai hi fel arglwyddes, ond ni buasai hynny'n rheswm yn y byd i un o'r ceraint hynny ddisgwyl i ni oll briodi'n morwyn, pob parch iddi, wrth gwrs. Diau bod y Viking yn ei le—cystal un anwes ag arall, a chyn rheitied hefyd. Felly y mynn Natur weithio, meddem. Nid unwaith na dwy y gorfu amrywiaeth bywyd ar ddiffrwythdra unrhywiaeth, ac yn yr ymdrech dragywydd honno, cyn rheitied un anwes ag arall.

Aethom allan. Cerddasom gyda glan y môr, ac eistedd ar y wal rhyngom a'r dwfr glaswyrdd gloyw. Llifai dilyw o heulwen felen dros dai bychain gwynion yr hen bentref a'r maes ar lan y môr, lle bu marwol ymdrech, fil o flynyddoedd cynt, rhwng hynafiaid rhai ohonom, a thros y