Tudalen:Dyddgwaith.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Onid gwell ennill trwy hynny na hir gyndynnu a cholli yn y diwedd?"

"Fe ddichon hynny," meddwn. "Byddaf yn tybio felly fy hun weithiau, pan fyddaf ar led, a'r pethau sydd yma yn pylu yn y pellter, pan fo raid i mi chwerthin am fy mhen fy hun am ddywedyd yn gas nad Sais monof i, wrth estron na bu erioed yn Lloegr, ac a'm galwo'n Sais o anwybod digon naturiol; neu pan fwy'n meddwl, a minnau adref, os mynnwch, am rai o'r pethau y tybir eu bod yn draddodiadau Cymreig. Ond pan ddof yma, neu fynd i Eryri neu fro Morgannwg; pan ddisgwylir i mi yma gymryd arnaf nad Cymro monof, wrth eraill fydd yn cymryd arnynt nad Cymry monynt, a hynny ym mhob peth fo'n perthyn i faterion anhepgor bywyd gwareiddiedig— llywodraeth, cyfraith, addysg, masnach—byddaf yn cofio ac yn deall bod rhai pethau na all rhai dynion mo'u anghofio." Gwelwn nad oedd fy nghyfaill yn deall monof-gwyddwn, yn wir, nad oedd fodd iddo fy neall chwaith, canys nid un oedd baich ei draddodiad ef a'r eiddof innau. Teimlwn ei fod yn synnu'n ddigon gonest pam y mynnwn fod yn farbariad o Gymro, lle gallwn fod yn "Frython" cystal ag yntau ym mhobman,