Tudalen:Dyddgwaith.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr oedd yn ŵr rhy fonheddig i ddywedyd hynny yn fy wyneb. Yr oeddwn yn ddiolchgar iddo am dewi a throi'r ystori, ac fe wnaeth hynny'n fedrus—canys nid oedd arnaf eisiau sôn mwy am y peth nad oedd, fel y barnai ef, a hynny'n ddigon gonest, yn ddim onid mympwy ofer. Nid oedd arnaf eisiau cyfaddef wrtho pa sawl tro y blinais ar ysbryd ymryson y cenhedloedd, pa sawl gwaith y dywedais wrthyf fy hun mai baich oedd traddodiad, hyd yn oed os baich nas collid unwaith wedi ei etifeddu. Ni fynnwn sôn pa mor fynych, wedi ambell brofiad, y tyngais na luniwn i rai pethau byth mwy, na pha mor aml wedyn y'm cefais fy hun yn eu llunio heb gymaint â chofio unwaith am fy mwriadau eang a'm safonau nid-cenhedlig; pa sawl gwaith, yn wir, yr eiddigeddais wrth bobl fel y Saeson am na byddai'r clefyd a elwir gwladgarwch yn beth cyson yn eu plith hwy, er tosted fydd pan ddêl.

Ac felly, sôn a wnaethom am bethau eraill— mor hardd oedd Dyffryn Clwyd, mor fawreddog oedd mynyddoedd Eryri yn y pellter draw; am y bobl a ddôi i bysgota yn afon Glwyd ac i saethu ieir mynydd ar fawnogydd Hiraethog, neu a dyrrai i dref y Rhyl yn yr haf. Ymadawsom.