Tudalen:Dyddgwaith.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth ef i'r Rhyl a minnau i ddistawrwydd mynydd Hiraethog.

Daeth y syched gwaed ar Ewrop. Pan glywais oddi wrtho nesaf, yr oedd ef ar gychwyn i rywle yn Ffrainc. "Who lives if England dies?" meddai. Tybed a gofiodd unwaith am yr ymddiddan a fu fis Gorffennaf, 1914? Ni wn. Ni chlywais oddi wrtho wedyn, ac ni ddaeth ef byth yn ei ôl.

Barbariad fel finnau, wedi'r cwbl?