Tudalen:Dyddgwaith.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYFEDD gennyf feddwl fy mod yn ei gofio ef yn ei rym yn ddyn cadarn o bymtheg ar hugain i ddeugain mlwydd oed, ac imi ei weled yn tynnu'r gŵys i'r pen yn saith a phedwar ugain. Amaethwr ydoedd, fel y bu to ar do o'i hynafiaid, ond cawsai well addysg na'r cyffredin o'i ddosbarth yn ei ieuenctid. Yr oedd yn athronydd wrth natur a rhifydd da—gweithiai broblem allan yn ei ben cyn y byddwn i wedi dyfod o hyd i'r ffordd i gynnig arni. Llefarai, darllenai ac ysgrifennai ddwy iaith ac enillodd grap ar drydedd. Clywais ei fod o dymer fywiog iawn yn hogyn, a bu a'i fryd ar grwydro'r byd gynt. Hyd yn oed yn ei ganol oed yr oedd ei waed yn boeth, ac anodd ganddo oddef rhai pethau. Gwelais ef yn cynhyrfu nes bod ei wyneb yn cochi lawer tro, ond tewi a wnâi. Pan lefarai byddai'n gwbl dawel. Hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw, cyfrifai ei gymdogion ef yn ddyn pwyllog. Ymddiriedent iddo ganoli a thorri dadleuon rhyngddynt, yn hytrach na mynd i gyfraith. Yr oedd yn hoff o gwmpeini, ond ni bu arno erioed ofn distawrwydd ac unigedd.