Tudalen:Dyddgwaith.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Darllenodd lawer yn gyson ar hyd ei oes, ond gallai eistedd yn llonydd am oriau i feddwl drosto'i hun. Pan oedd yn bedwar ugain oed, ac eto'n sionc ar ei droed, dywedodd wrthyf ei fod ryw noswaith drymllyd yn yr haf, er blino mwy nag arfer yn ystod y dydd, wedi cerdded tair milltir i ryw wasanaeth. Ar gychwyn y daith yn ei ôl, teimlai mor flinedig fel na wyddai sut i roi'r naill droed heibio'r llall. Ond dechreuodd feddwl am y corff, oedd yn blino, a'r ysbryd na flinai ddim. Yr oedd wedi cyrraedd adref ac eistedd yn ei gadair heb gofio unwaith am ei flinder. Câi'r profiad hwnnw'n aml. Ni adawai'r argraff ar ddyn ei fod yn hen, canys yr oedd ei feddwl mor ddianwadal a chyn hoywed ag erioed. Agos hyd y diwedd, gallai amgyffred a chofio cynnwys pob llyfr a ddarllenai, a lluniodd iddo'i hun athroniaeth bywyd a roddes iddo fwy fwy o dawelwch rhywiog a llarieidd-dra aeddfed o ddydd i ddydd, er gwaethaf oes ddigon helbulus a thrallodus.

Eiddigeddwn wrtho am na byddai dim a'i cynhyrfai mwy. Araf oeri o'r gwaed a fu boeth gynt? Efallai, ond nid hynny'n unig chwaith, canys ni bydd ar hynny nemor rinwedd oni bydd