Tudalen:Dyddgwaith.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunan-ddisgyblaeth eisoes wedi achub y blaen arno. Gall y gwaed oeri heb rywiogi, a'r dymer arafhau heb warhau. Yn ei hanes ef, dechreuodd y ddisgyblaeth honno'n gynnar a pharhaodd ar hyd y daith. Nid ofnodd ddilyn ei ddealltwriaeth hyd yn oed yn ei henaint. Newidiodd ei feddwl ar lawer peth, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd, yn ei ddydd, ond ni chlywais erioed mono'n dirmygu'r syniadau na allai ef mo'u derbyn mwy. "Yn dawel iawn y bydd popeth yn tyfu," meddai wrthyf unwaith, "ac ni waeth heb ddisgwyl unpeth lawer cyn ei bryd." Felly yn dawel yr aeddfedodd yntau, ac yr aeth ei dawelwch yn eidduned, o leiaf, i un arall.

Y tro diwethaf ond un i mi ei weled, ar ganol yr agonía olaf, ni'm hadnabu pan gyferchais ef. Atebodd yn Saesneg, gan esgusodi ei glyw a'i olwg. Adfail. Eto, yn y man daethom ar draws dirgelwch corff ac ysbryd. Daeth yr hen oleuni i'w lygaid. Nid oedd gryndod yn ei lais mwy. Am awr, llefarodd fel cynt. Yr oedd yr ysbryd mor fyw ag erioed, er mai blin iawn oedd y corff. Yna tawodd, dododd bwys ei ben ar ei law a bu'n edrych yn hir, megis pe ar rywbeth yn y pellter. Ofnwn ei darfu, ond aeth yr ysbaid mor hir fel