Gwirwyd y dudalen hon
yr anturiais ofyn a oedd dim a fynnai. "Na," meddai, "meddwl yr oeddwn." Yna sibrydodd:
"Ti a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae'n dyfod nac i ba le y mae'n myned."
Nid hir fu'r ymdrech wedyn. Agorwyd y drws iddo o'r diwedd. Aeth trwodd yn dawel, gan sibrwd rhywbeth am " yr amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd."
Perffeithiwyd y tawelwch.