Tudalen:Dyddgwaith.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ninnau ryw ddiwrnod at y tro ac edrych yn swil heibio'r plygiad, oni byddai yntau eisoes yn ymguddio y tu draw i'r tro nesaf?

O dipyn i beth, dechreuem sylweddoli, nid yn unig ei fod ef yn newid ei guddfan o hyd, ond ei fod bellach wedi newid ei gyfeiriad hefyd. Ymlaen y byddai gynt. Yn ôl y bydd bellach. Gallem fod wedi mynd heibio iddo yn rhywle ar y ffordd a'i adael yno heb yn wybod i ni ein hunain. Tybed mai wrth freuddwydio amdano ef ei hun yr aethom heibio iddo heb ei adnabod? Syn fydd gennym hefyd deimlo bellach nad ymlaen y bydd rhyfeddodau'r pellter. Drwy ryw hudoliaeth, yn ôl y bydd yntau, draw yn yr heulwen araul, fydd yn tywynnu yno erbyn hyn; a syndod ei fod yntau weithian yn edrych mor debyg i'r peth y byddem yn ei geisio gynt, ymlaen.

Dechreuwn hefyd synio nad ei guddfan a'i gyfeiriad yn unig a newidiodd y byd hwnnw. Oni chwaraeodd ef ambell gast â ni yn ystod y dyddgwaith? Oni theimlwyd, nid yn unig ei fod ef yn chwarae mig â ni, ond ei fod yn newid ei wisg o dro i dro? Ai rhyw hudol oedd yntau, rhyw wehydd yn dieithro'i wisgiad yn gywrain, pan fyddai dynion yn cynefino â'r hen drwsiad,