Tudalen:Dyddgwaith.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth gael cip ar y tu chwith, ac yn dechrau meddwl nad oedd hwnnw wedi'r cwbl lawn cyn wyched ag y bu unwaith yn edrych iddynt hwy? Er hynny, onid medrus oedd ef, a'i wisgiad newydd bob tro mor gymwys, mor ddeniadol â phe bai wedi ei lunio yn union wrth batrwm a mesur gorhoffedd dyn ei hun, wrth ddymuniad ei galon?

Pe deuid rywfodd o hyd i weithdy cudd y gwehydd hwnnw, a medru gwybod manylion ei grefft, oni byddai'r byd yn nes i'w le, onid yr ymchwil am y dirgelwch hwnnw yn wir oedd i wneuthur pethau yn eglur i ni a rhoi'r byd yn ei le? A diau mai difyr oedd yr ymchwil. Antur fawr a chloddio dwfn. Rhamant a dirni, yn gofyn byrbwyll a hirbwyll.

Ac eto, er a ddysgem oddi wrth ein cyfeillion sicraf o'u dysg, teimlem rywfodd, er mor ddifyrrus oedd yr ymchwil yn aml, nad oedd y gwehydd a'i grefft nemor nes i ddyfod i'r golwg. Eithaf y peth a allai'n penaethiaid rhywiocaf fyddai gwisgo rhyw olwg ddoeth, gwenu ambell waith, ysgwyd pen fel pe bai'n drwm gan ddoethineb profiad lawer, a throi at godi neu gadw ein diddordeb yn nhermau aml eu gwybodau hwy. Dangosai eraill, afrywiocach eu graen, ryw dosturi