Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddgwaith.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AMSER A LLE

OFER i ddyn nad yw'n "fod cyfrifol," chwedl Daniel Owen gynt, geisio deall damcaniaethau rhifofyddion ein cyfnod ni am amser a lle. Pe dywedent wrthym nad yw amser ond lle ac nad yw lle ond dim, ni byddai i ni ond ceisio edrych yn ddoeth a llefaru pa derm bynnag y dywedid wrthym ei fod yn cyfleu'r gwirionedd hwnnw. Cof gennyf am fwy nag un cydnabod a fyddai, flynyddoedd yn ôl, tua'r adeg y cyhoedd wyd rhyw lyfr neu'i gilydd, yn sôn fyth a hefyd am" y pedwerydd dimensiwn." Nid oedd gennyf un syniad am ystyr y term. Wrth eu holi o dro i dro, cefais nad oedd ganddynt hwythau chwaith. Eto, pery amser a lle, fel y byddwn ni'n meddwl amdanynt, yn bethau diddorol a phwysig ym. mân gynlluniau dynion cyffredin a llygod bach, fel y sylwodd Robert Burns.

Boed y gwir am y ddeubeth fel y bo, cof gennyf eu cydio â'i gilydd pryd nad oedd fy mhrofiad o'r naill a'r llall ond bychan iawn. Yr oeddwn eisoes wedi deall na allwn i (nid oeddwn mor sicr am fy mam) ddim bod mewn dau le ar unwaith, ac wedi dysgu cyfrif hyd bump neu