Tudalen:Dyddgwaith.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwech, o leiaf. Ym muarth y cartref yr oedd Un; Dau ychydig ymlaen ar y lôn o'r buarth i'r ffordd fawr; Tri a Phedwar fwy fyth ymlaen, a Phump wrth y llidiard, rhwng y ddwy goeden ywen. Wedi hynny cymerth pob rhif o chwech hyd ddeuddeg ei le gydag ochr y ffordd fawr, ac yr oedd Deuddeg ei hun wrth y groesffordd, ddau led cae oddi wrth y lôn o'r ffordd fawr i'r buarth. Yn ymyl y groesffordd, trôi'r tri ar ddeg tua'r cae ar y dde, ac ymlaen i'r cae hwnnw ar ychydig o sgiw y rhedai'r rhifau hyd ugain. Trôi'r un ar hugain i'r un cyfeiriad â'r ffordd fawr eto, ac ymlaen â'r rhifau wedyn gan agosáu at y ffordd yn raddol a'i chroesi yn rhywle rhwng yr wyth a'r deg ar hugain a dal ymlaen i'r chwith. Yr oedd y tri deg ei hun ar fin nant fechan ym mhen draw'r cae pellaf oedd yn perthyn i ni. O'r tri deg hyd dri deg a naw, rhedai'r rhifau i lawr o ymyl y nant hyd ei gwaelod. Yna dechreuai deugain ar fin y nant eto, ychydig pellach na'r tri deg, a rhedai'r rhifau hyd naw a deugain i waelod y nant fel y lleill. Felly bob deg oddi yno hyd naw deg a naw. Yr oedd hwnnw ar waelod y nant wrth y terfyn rhwng y cae a'r coed oedd yno yn ymestyn i fyny, ni