wyddwn i ba mor bell. Lle gwlyb tywyll oedd gan naw deg a naw, ar ymyl pwll bychan du, tan gysgod ysgawen a'i changhennau'n gwyro dros y dwfr du yn y pwll. Ar fin y nant eto, ond drosodd yn y coed, yr oedd y cant. Ac yna, yr anhysbys a'r di-gyfrif.
Yr un modd, yr oedd lle i bob llythyren o'r egwyddor, o'r A hyd yr Y, ond i'r cyfeiriad arall yr âi honno, i lawr gyda'r afon, yr A yn y buarth isaf a'r Y ar lan yr afon, lle'r oedd afon arall yn rhedeg iddi, a choed lawer yn tyfu. Nid oes, efallai, ryw gysylltiad pendant rhwng y pethau hyn ag amser, ond yr un llwybr a gymerth y meddwl ieuanc pan ddysgodd ryw faint am fis a blwyddyn. Rhwng y buarth a'r coed a dyfai o boptu i un o'r ddwy afon y soniwyd amdanynt, yr oedd cae agored a thipyn o lethr ynddo a'i ddisgyniad i lawr at yr afon ar y chwith ac ymlaen tua'r coed. O ben y llethr i lawr at y coed, yr oedd hen glawdd cnapiog. Gyda sawdl y clawdd hwnnw, tyfai briallu yn y gwanwyn, ac yr oedd yno afallen wyllt a choed cyll. Ar hyd gyda'r clawdd hwnnw yr oedd misoedd y flwyddyn, Ionawr yn y pen nesaf i'r buarth, Ebrill yn y lle y byddai'r briallu, Mai lle'r