Tudalen:Dyddgwaith.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yr afallen, Awst lle'r oedd y cyll, a Rhagfyr lle'r oedd y coed yn dechrau. A'r coed, fel tragwyddoldeb, lle'r oedd y blynyddoedd i gyd. yn darfod-y coed lle'r oedd llawer rhyfeddod a dirgelwch, lle y gallech golli'ch ffordd. Ond ystori arall yw'r ystori honno, a gasglodd bethau diweddarach iddi ei hun yng nghwrs y blynyddoedd.

Ymhen blynyddoedd lawer, pan ddigwyddodd i mi sôn am y peth, dywedodd fy nhad wrthyf y byddai ganddo yntau yn hogyn leoedd yma ac acw i'r adnodau a'r penillion a ddysgai. Ni byddai gennyf i le i adnodau na phenillion, ond cofiais y byddai gennyf le i'r Pader Lladin, a ddysgais flynyddoedd wedi'r cyfnod hwn, man ar ganol buarth y pedwerydd cartref, ei lle ei hun i bob brawddeg, a'r cwbl ar lun rhyw ffigur troeog.

O'm rhan fy hun, hyd heddiw, yn yr un lleoedd y mae pob rhif a llythyren a mis, ac yno yr ymgasgl popeth y gellir ei gyfrif gan ddyn cyffredin, pob sain y gellir ei seinio a phob mis y bo cof amdano o'r misoedd a fu. Yno y mae'r canrifoedd, yn ansicr o'r gyntaf hyd y chweched, yn gliriach oddi yno ymlaen, bob un wrth ei phriod