Tudalen:Dyddgwaith.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddyliais na allai fod unpeth mor odidog â'r heulwen felen oedd yn tywynnu ar y coed yr ochr draw i'r afon a redai heibio'r buarth. Yr oedd y brain yno eisoes yn crawcian ac yn cychwyn ymaith ar eu taith am y dydd, ac ambell ysguthan gyflym a distaw yn codi o'r coed ar ei neges hithau. Yr oedd y llyn yn yr afon mor loyw, a'r briallu a dyfai ar ei dorlan mor annwyl. Daeth drosof ryw chwithdod wrth feddwl y byddai hi'n braf felly drwy'r dydd yno, a minnau wedi mynd ymaith, fel na byddai yno neb i wybod mor hyfryd oedd y lle hwnnw. A chyda hynny, dyma'r meddwl am y byw'n dragywydd, a'r drybini i'w ganlyn. Nid oedd fodd ei oddef ac ni wyddwn ba beth a wnawn. Ond yn sydyn, dyma'r syniad. Gallem fyw yn hir iawn, a blino. Yna, wedi'n blino, caem gysgu'n hir a deffro eilwaith. Gwelwn ryw fath o fynedfa hir (pasaij oedd y gair cyffredin a glywswn am y peth y pryd hwnnw), a drysau'n agor ohono ar bob llaw. Pan fyddai enaid wedi byw yn hir a blino yn arw iawn, dôi Duw ac agor un o'r drysau iddo. Ai yntau i mewn i ganol miloedd o eneidiau blinedig eraill a fyddai yno'n cysgu. Cysgai yntau am amseroedd maith. A phan fyddent wedi bwrw eu