Tudalen:Dyddgwaith.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blinder, dôi Duw ac agor y drws iddynt. Doent allan, byddent wedi dadflino, a gallent fyw yn hir hir eilwaith. Ac felly o hyd, pan flinent, aent at Dduw a gofyn iddo a gaent gysgu. Agorai yntau'r drws iddynt. Aent i mewn. Cysgent. A phan ddeffroent o'r hun honno drachefn, agorai iddynt ddyfod allan wedyn. A byddent yn ddiolchgar i Dduw, ac yn hapus, ac felly gallent fyw'n dragywydd.

Pa fodd y daeth y syniad i'm pen, nis gwn i, onid mai cysgu y bydd hogyn bach wedi blino; a'r modd y cwsg, nis gŵyr efô. Na neb.

Bellach? Ni wn i ddim, ond pe caniateid i mi gysgu a deffro eilwaith, mi anturiwn.