Tudalen:Dyddgwaith.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y MAE'N ddigon tebyg fod y breuddwyd effro, ymhlith plant a phobl ieuainc, ac efallai rai hŷn a freiniwyd â'r gynneddf a geidw ddôr y breuddwydfyd yn agored yn hwy na'r cyffredin, yn un o gyfryngau diymwybod datblygiad y meddwl. Yr wyf yn cofio un hen wraig fy meddwl i ar y pryd oedd ei bod yn hen iawn, beth bynnag-a fyddai'n edrych ar f'ôl pan oeddwn yn bur fychan, ac a fyddai, yn ôl fel yr ymddengys i mi bellach, yn breuddwydio'n effro pan fynnai. Pa faint o bethau yr oedd hi yn eu deall, ni wn i ddim, ond yr oedd hi yn deall plant. Efallai iddi hi adael arnaf innau ddylanwad na chofiais ddim amdano, heb sôn am ei ddeall, neu feddwl am geisio'i ddeall, am gyfnod sy'n edrych fel oesau ac nid fel rhyw res o Alynyddoedd a fydd, pan edrycher arnynt o gyfeiriad neu mewn meddylstad arall, yn debycach i ychydig ddyddiau.

I ddechrau, diau mai'n llwyr ddiarwybod i ni y daw'r breuddwyd dydd, fel y llall sy'n cerdded y nos, ac nid peth hawdd yw dyfod o hyd i brawf sicr pa mor gynnar y bydd plentyn yn gallu