Tudalen:Dyddgwaith.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agor y ddôr pan fynno, hynny yw, yn medru cymryd arno drwy ymwybod ac o'i wir fodd. Dywedodd f'ŵyres fach wrthyf, pan oedd hi rhwng pedair a phump oed, y byddai hi weithiau'n cymryd arni fod pethau na byddant, a bûm yn ei gwylio cyn hynny heb yn wybod iddi, yn byw am yn agos i awr ar y cloc, gartref yng Nghymru, yng nghanol ieir a defaid a chŵn, yn galw wrth eu henwau ar bobl a chŵn nas gwelodd ers blwyddyn, a ninnau'n dau ar y pryd. mewn tŷ yn Llundain.

Gallaf gofio gwneuthur peth tebyg fy hun pan oeddwn rhwng pump a chwech, a chyfarfum â rhai o dro i dro a'i gwnâi yn fwy neu lai cyson. ar hyd eu hoes.

Un o'r atgofion cyntaf am freuddwydio felly o'm bodd yw hwn: Yr oedd fy nhad a minnau'n cerdded adref o ffair, ar hyd llwybr sy'n cyd-redeg. â godre craig am gryn bellter. Ffordd, draw ar y chwith. Ar y dde, craig yn ymgodi'n syth hyd gryn uchter-craig ag arni enw prydferth, "Craig y Forwyn." Y llwybr, rhwng y graig a'r ffordd, ar hyd llain o dir oedd gynt yn llawn eithin a rhedyn a chlychau'r bugail. Lle go anial, heb odid dŷ yn y golwg y pryd hwnnw.