Tudalen:Dyddgwaith.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efallai fod yno "bentref gardd" erbyn hyn, a phobl anghyweithas, yn siarad Saesneg mor annaturiol ag y medrant.

Fel y cerddem ar hyd y llwybr, gwelwn ddau ddyn a dau gi i'w canlyn, yn symud yn araf gyda godre'r graig, ryw led cae go lew oddi wrthym.

Yn sydyn yn fy meddwl i, dyma'r dynion a'r cŵn hynny yn mynd yn rhai a rhyw ryfeddod o'u cwmpas, rhai'n byw yn y lle anial hwnnw ers amseroedd maith, ac yn hela yno gyda'u cŵn o hyd. Ni allai pawb eu gweled. Tybed a welai fy nhad hwynt? Yr oeddwn ar ofyn iddo, ond peidiais. Hwyrach mai dywedyd a wnâi nad oedd yno neb, neu ynteu mai dynion cyffredin, yr un fath â rhywrai eraill oeddynt. Yr oedd yn well gennyf innau ddal i feddwl eu bod hwy yno erioed, yn byw yn y graig, ni wyddai neb ym mha le, ac yn hela gyda'u cŵn wrth odre 'r graig, bob dydd y byddai'r haul yn tywynnu a'r lle, fel yr oedd ar y pryd, yn edrych mor braf yn yr heulwen nes codi hiraeth ar rywun wrth ei weled y mae arnaf, o ran hynny, hiraeth hyd heddiw am y golau melyn hwnnw, a'r eiddew gwyrdd yn tyfu yma ac acw hyd wyneb y graig.