Tudalen:Dyddgwaith.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd dim ym maint na dillad y dynion i beri i mi feddwl nad oeddynt fel rhywrai eraill, ond yr oeddynt rywfodd fel pe buasent ymhell oddi wrthym ni, fel pe buasai hi'n heddiw arnom ni'n dau, ac yn ddoe neu echdoe neu ryw ddiwrnod pell yn ôl arnynt hwythau. Efallai nad oeddynt yn siarad yr un fath â ni; na byddent byth yn mynd i ffair nac yn blino wrth gerdded adref; na byddent byth yn myned i eglwys na chapel ar ddydd Sul, ac na buont erioed yn gorfod mynd i ysgol; na byddent yn gwneud dim ond hela pan fyddai'r haul yn tywynnu; na ddoent i'r golwg ar rew nac eira, na glaw, ond byw mewn ogof yn rhywle yn y graig, a chysgu ar wely o redyn coch esmwyth, a'u cŵn yn eu hymyl, lle na wyddai neb amdano, lle ni byddai ond golau coch, fel golau lleuad . . .

Ni chofiais fy mod wedi blino wedyn nes cyrraedd adref.

Wedi hynny, yn llanc deunaw oed, byddai'n hoff gennyf ymollwng o'm bodd i freuddwydio'n debyg, pan welwn graig blom ag iorwg yn tyfu arni a hithau'n huno megis mewn heulwen felen, heb na thŷ na thwlc na dyn byw yn y golwg, ac awel fach gyfeiliorn wrth lithro drwy redyn