Tudalen:Dyddgwaith.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn eich ymyl yn rhoi uchenaid neu chwerthiniad, fel pe buasai'n ceisio torri gair wrthych, a chwithau rhwng trist a llawen. A byddai'r teimlad am heddiw a'r diwrnod pell yn ôl yno bob amser, rhyw ymdeimlad mai'r byd hwnnw oedd bod mewn gwirionedd, bod tawel, parhaus, nid rhyw res o sbonciau darfodedig.

Adnabûm eraill a gyfaddefai'r gwendid hwn. Er y byddai gosodiad a manylion y breuddwydion yn amrywio, byddai'r ymollwng o wirfodd, a'r ymdeimlad o'r trychiad ar amser yn bethau cyffredin i'r rhan fwyaf ohonynt. Mynych y gofynnais i mi fy hun, neu y gofyn nodd un wedd arnaf i fy hun i'r wedd arall, onid coll amser fyddai rhyw wlana felly. "Drwy'r gwlana hwnnw," meddai'r Wedd Arall, "y dysgaist ti 'r iaith anhawsaf a wyddost, ar lawer llai o drafferth na'r lleill." Efallai, yn wir. "Get mad on" oedd y cyngor a gefais gan un, pan oeddwn yn dysgu'r iaith honno, a hithau'n dyfod i mi fel pe buaswn wedi bod yn ei medru ryw dro o'r blaen. Pan fynnem chwarae gynt, gofynnid, "Ai o ddifrif ai o fregedd?" Pa un bynnag fyddai'r