Tudalen:Dyddgwaith.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw, na wyddid na'i ystyr na'i hanes, dim ond clywed ei sŵn ac araf lunio o'r seiniau hynny bethau a welid, nid â'r tu blaen i'r llygaid, ond megis â'r tu cefn iddynt, neu â rhywbeth yn eu canol. Paham yr oedd pob godidowgrwydd yn y lleoedd hynny, yn y gwledydd pell, yn eithafoedd byd, ac awydd anesmwyth yng nghalon dyn o hyd am fynd ar eu holau? Dau neu dri haf, a chymdeithion o wlad arall, wrth wraidd y cof, a gaeaf neu ddau, oerach nag arfer, yn ystod rhyw gyfnod byr, pum mlynedd ar y gorau, eira a rhew a niwl digysur?

Cil Erwain, Morocco, Travancôr; Estremadura, Vallombrosa, Eldorado, Elysium, Afallon, Tir na n-Og; Deffrobani, Broseliawnd, Celyddon; Ros Ailithir, Ros Aluinn, Cuan Dor— ble y mae'r godidowgrwydd pell? A yw dianc o le i le yn dragywydd, neu a yw ef fyth i'w gael pan fynner yn lleindir Cil Erwain, ai gaeaf oer ac eira digysur sydd yno mwy?

Pan euthum i edrych ar Gil Erwain am y tro olaf, yn gynnar un bore ym Mai, y diwrnod yr oeddym yn gadael yr hen gartref am byth, daeth ei holl ogoniant yn ôl fel y byddai gynt. Ac er bod pellter pellach nag erioed erbyn hyn yn