Tudalen:Dyddgwaith.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwithau mor newydd, mor ddieithr,—tybed mai chwi oeddych chwi?

Ond fel y dôi Cil Erwain yn nes, âi'r lle pell yn bellach. Dyfod o hyd i leoedd eraill rhyfeddol, rhaeadr bychan, Pistyll Brido wrth ei enw; llain bach o raean ar ryw dro yn yr afon, lle'r oedd cerrig mân i'w cael a wnâi farciau prydferth o goch a melyn a glas ar lechen neu bapur; craig uchel yn ymgodi fel y gallech ei dringo o ris i ris hyd ben y marian, ac oddi yno ar y chwith weled y môr mawr glas yn y pellter, a llongau arno, yn hwylio i wledydd pell; a thraw ar y dde, llechweddau moelion, creigiog, a fyddai pan dywynnai'r haul arnynt yn edrych fel y gwelsoch liw mêl tenau mewn potel o wydr gloyw—ar rai o fryniau deheubarth Iwerddon yn unig y gwelais lewych tebyg.

Rywfodd, yr oedd gogoniant Cil Erwain fel pe buasai'n ymgolli yn y pethau hyn y naill ar ôl y llall, a'r pell yn mynd o hyd yn bellach. Dechreuodd gymryd enwau newyddion, dieithr, pell—India, Affrig, lle'r oedd main gwyrth yn disgleirio yn yr afonydd, meddai barddoniaeth Saesneg, a dirgelwch yn nofio drwy ei hun mewn fforestydd diddiwedd. Llawer enw, dim ond