Tudalen:Dyddgwaith.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhyfeddol. Nid oedd arnaf ddim ofn yno, dim ond rhyw wyleidd-dra synedig. Braidd na fyn sech dynnu'ch esgidiau cyn dodi troed ar borfa mor lân ac esmwyth. A golau'r haul ar y perthi draw, bron fel pe buasent ar dân. Ni wyddech pa beth a allai ddigwydd yno un funud. Gwiwer yn llithro heibio o fewn dwylath i chwi. Cwnhingen yn rhyw neidio o gwmpas, ac yna'n eistedd ac yn edrych arnoch â llygaid llawn of syndod, yna'n hopian yn ei hôl i'r llwyn. Bronrhuddyn, â phen cam, yn syllu ym myw eich llygaid. Pioden hyd yn oed yn edrych fel pe na buasai arni'ch ofn, nac awydd ehedeg ymaith gan eich rhegi. Rhyw awel fach wylaidd yn suo drwy'r dail braidd yn drist a hiraethus, fel pe byddai arni eisiau sisial rhywbeth yn eich clust, ond ei bod hi'n gwybod na ddeallech moni. Nid hynny'n unig. Rhywbeth nas gwelech ac nas clywech ddim, ond y gwyddech ei fod yno, yn rhywle, ym mhobman, bob amser. Ni wyddech ai ei galon ef ai 'ch calon eich hun a glywech yn curo. Gwyddech y byddai arnoch hiraeth am y lle ar ôl myned ymaith. Yr oedd popeth yno mor newydd, mor ddieithr, mor bell... A