Tudalen:Dyddgwaith.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eto, cyn bod un yn gwybod ond y nesaf peth i ddim hyd yn oed am yr hyn fo agos ato a chynefin iddo, fe ddysg rywfodd roi mawr bris ar y pell a'r anghynefin. Nid rhaid bod y pell hwnnw yn bell iawn i gychwyn, ond pellhau beunydd y bydd, a diau mai'r gwir am ddyn, pa le bynnag y bo, yw mai ei awydd tragywydd fydd bod yn rhywle arall.

Y mae, yn wir, ryw swyn yn y gair pell ei hun, yn enwedig o'i lefaru ag e hir, fel y gwneir yn y De, ac y mae ar bellter lawer mesur. Bellach nid oes ar yr hen ddaear hon un man pell iawn of unman arall efallai mai'r pellter rhyngom a'r dyn fydd a'i sawdl ar flaen ein troed yw'r mwyaf. Unwaith yr oedd Cil Erwain, nad oedd lawn dri lled cae o'm cartref, yn bell i mi. Tyfai yno erwain (neu frenhines y weirglodd) a rhedyn, cerddin, cyll a chelyn, banadl hefyd a bedw arian. Rhyngddynt yr oedd mân leiniau o borfa na welais i ddim mor fân, mor wastad, mor wyrdd byth wedyn.

Cof da gennyf fy nghael fy hun yno am y tro cyntaf. Dieithrwch a syndod. Daeth i'm pen nad oedd fodd bod yno ddim cas na dim drwg. Yr oedd hi'n ddistaw yno ac yn lân, yn brydferth,