Tudalen:Dyddgwaith.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSTYRID bod trafaelio rhywfaint a gweled tipyn o'r byd, fel y dywedid, yn gorffen addysg y rhai a fyddai ddigon lwcus i allu fforddio hynny gynt. Pan âi rhywun ffodus ar y daith honno, dywedai'r rhai fyddai'n gorfod treulio'u hoes yn yr un plwyf fod hwn a hwn wedi "mynd i rodio."

Yr argraff a gâi'r rhai y bu raid iddynt aros adref, am o leiaf rai o'r bobl a fu'n rhodio ar y perwyl hwnnw, oedd na welsant nemor ddim i'w fawrhau yn y gwledydd estron, er bod y daith yn gosod dyn ar safle uwch. Nid oedd trigolion y gwledydd hynny, ar y pryd, mae'n debyg, yn ddim ond pobl yn siarad ieithoedd dieithr ac yn ymddwyn fel tramoriaid—nid oeddynt ond brodorion, yr un fath â'r Cymry, na allent fforddio bod yn gymmrodorion. Eto, gellid ymffrostio bod unwaith yn eu plith. Cof gennyf am un y câi rhai pobl lawer o ddifyrrwch drwy awgrymu yn ei glyw mai ffŵl ydoedd, er mwyn ei glywed yntau'n gwadu'r honiad drwy rwbio'i ddwylaw yn ei gilydd yn fygythiol a thyngu ei fod ef yn gwybod ei achau ac wedi trafaelio.