Tudalen:Dyddgwaith.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno yn y tywod anorfod, yr haul tragywydd a'r nos ddilafar? Ac eto, onid pererin oedd yntau'r crwydryn o wlad bell: Yfory? Pwy a wyddai nac a faliai? Ni waeth! meddai'r tywod anorfod, yr haul tragywydd a'r nos ddilafar. Ac ni ddawr yntau'r crwydryn, mwy na hwythau. Ac ni ddôi oddi yno'n gymwys yr un fath ag yr aeth yno. Onid oeddis yno megis yn cael cysgu a deffro . . .?