Tudalen:Dyddgwaith.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rigolau cynnar. Olion gwareiddiad ar wareiddiad, crefydd ar grefydd, athroniaeth ar athroniaeth, yn huno'n dawel gyda'i gilydd yn y tywod mân a'r haul disglair, cynnes. Dynion, fel rhyw bryfed aflonydd, naill ai'n gwibio yma ac acw yn ôl defod eu tiriogaethau, ar ôl pleser a maswedd, cyfoeth neu anrhydedd, ennyd awr ym mynwent yr oesoedd; neu ynteu yn null araf a dioglyd y brodor ion a'u hathroniaeth ddiofal, a fynegir mewn deuair neu dri, yn wyneb pob digwyddiad mewn bywyd—"Bukra" (yfory), "Ma lesh" (ni waeth).

A chydag ymachlud haul dros yr ehangder distaw breuddwydiol, draw, draw, o ddydd i ddydd, o fis i fis, bob tro yn debyg ac eto fyth yn newydd; llais y muezzin o ben y mosc yn disgyn i lawr fel llef o'r nef, a'r ffyddloniaid ufudd yn troi i'r dwyrain di-newid ac yn ymgrymu hyd lawr. Ni welir mwy ond gwrid yr haul a hwnnw'n pylu ac yn tywyllu yn y gorllewin pell. Awel fach oeraidd o'r gogledd, ennyd (beth yr oeddynt yn ei wneud yno, tybed, ar yr awr honno?). Yna tawelu o honi hithau, ac agor o'r mân ffenestri rhuddaur dinifer yng nghromen aruthr y nos.

Onid âi pethau'r gorllewin am ennyd ymhell ac yn ddibwys, fel darnau breuddwyd yn cilio,